Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
11 Rhagfyr 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6050
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1-4 a 6-9. Trosglwyddwyd cwestiwn 5 i’w ateb yn ysgrifenedig. Ni ofynnwyd cwestiynau 10 a 12. Tynnwyd cwestiwn 11 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.08
Gofynnwyd y cwestiwn 9 cyntaf. Atebwyd cwestiwn 3 gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Ni chafwyd unrhyw Gwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 14.52
Gwnaeth Helen Mary Jones ddatganiad am gefnogi digwyddiad a gaiff ei gynnal yn Ngwersyll yr Urdd ym Mae Caerdydd ar 18 a 19 Rhagfyr.
Gwnaeth Suzy Davies ddatganiad yn nodi 40 mlynedd ers mabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu pob math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod (CEDAW).
Gwnaeth Caroline Jones ddatganiad am Sefydliad y Merched Cwm Brombil.
Tynnwyd yr eitem hon yn ôl
Dechreuodd yr eitem am 14.57
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7215 Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, Cynnydd a Her: Gweithredu Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016.
2. Yn nodi bod mwy o nyrsys yn gadael y GIG nag sy'n ymuno.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y bydd GIG Cymru yn cynyddu'r cyfleoedd i weithio'n hyblyg fel rhan o strategaeth genedlaethol ar gyfer cadw nyrsys.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
14 |
0 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 15.34
NDM7219 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad i: Mynediad at Fancio a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.35
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7218 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi canlyniadau PISA 2018 y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).
2. Yn gresynu:
a) na fu unrhyw welliant ystadegol sylweddol yn sgoriau PISA Cymru mewn darllen a mathemateg ers 2006;
b) bod sgoriau Gwyddoniaeth Cymru yn sylweddol waeth nag yn 2006;
c) bod Cymru wedi'i gosod ar waelod gwledydd y DU mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth;
d) mai Cymru yw'r unig genedl yn y DU sydd â sgôr is na chyfartaledd yr OECD ym mhob un o fesurau PISA.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cydnabod ei methiant i wella addysg yng Nghymru;
b) ymddiheuro i ddisgyblion, rhieni ac ysgolion am eu siomi;
c) gwarantu bod adnoddau ychwanegol yn deillio o wariant ychwanegol ar ysgolion gan Lywodraeth y DU yn cael ei fuddsoddi mewn ysgolion yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
32 |
44 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi mai Cymru yw'r unig genedl yn y DU i wella ym mhob maes.
Yn croesawu:
a) sgoriau gorau Cymru erioed mewn darllen a mathemateg, a gwelliant mewn gwyddoniaeth;
b) gostyngiad yn y bwlch rhwng ein dysgwyr mwyaf difreintiedig a'u cyfoedion;
c) gwelliant ym mherfformiad myfyrwyr uchel eu perfformiad.
Yn credu bod y gwelliant yn sgoriau PISA yn brawf o waith caled athrawon a disgyblion ledled Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
17 |
44 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7218 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi canlyniadau PISA 2018 y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).
2. Yn nodi mai Cymru yw'r unig genedl yn y DU i wella ym mhob maes.
3. Yn croesawu:
a) sgoriau gorau Cymru erioed mewn darllen a mathemateg, a gwelliant mewn gwyddoniaeth;
b) gostyngiad yn y bwlch rhwng ein dysgwyr mwyaf difreintiedig a'u cyfoedion;
c) gwelliant ym mherfformiad myfyrwyr uchel eu perfformiad.
4. Yn credu bod y gwelliant yn sgoriau PISA yn brawf o waith caled athrawon a disgyblion ledled Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
17 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 17.32
Dechreuodd yr eitem am 17.35
NDM7220 Vikki Howells (Cwm Cynon)
Mynd i'r afael â heriau gofal yr unfed ganrif ar hugain.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.03
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 7 Ionawr 2020